Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Mawrth 2021
Amser:
08.32 -
09.23
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Delyth Jewell AS Darren Millar AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AS, a oedd eisoes wedi nodi ei bod yn fodlon ar yr adroddiad drafft a oedd yn cael ei drafod o dan Eitem 2.
2 Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod yr adroddiad drafft
2.1 Roedd Angela Burns AS a Llyr Gruffydd AS wedi gwneud sylwadau ar nifer o feysydd y bu'r Aelodau'n eu trafod wrth iddynt ystyried yr adroddiad drafft.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar 17 Mawrth 2021.
2.3 Nododd y Cadeirydd y bydd dadl yn cael ei chynnal ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021.